Corris Festival Newsletter
OCTOBER 2007
|
|||||||||||||||||||||||||
|
Gwyl Corris wedi cyrraedd
|
Corris Festival has arrived
|
||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||
|
Mae Pabell Fawr yr ?yl yn sefyll yn dawel ar lawr y cwm gan ddisgwyl y torfeydd a fydd cyn bo hir yn ymlwybro o'r tafarnau ac i lawr y llethrau llithrig, tocynnau yn eu llaw a disgwyliad yn eu calonnau y byddant hwythau hefyd yn dod yn rhan o hanes Corris. Darllenwch ymlaen. I ddechrau yn y dechrau. Noson o hydref yw hi, noson ddileuad heb seren i'w gweld a phentre Corris yn ddu fel y fagddu. Ar ôl sesiwn jamio lwyddiannus arall yn y Fraich Goch mae Andy a Matt yn trafod cael ychydig o fandiau lleol at ei gilydd i gynnal digwyddiad cerddorol. Mae'r dyddiau wedi mynd heibio yn y pentre digynnwrf, a bu Nicky ac Andy yn sôn am drefnu rhai bandiau ar gyfer yr Institiwt. Mae rhagor o ddyddiau'n mynd heibio. Yn y Noson Werin ar ryw nos Fawrth ym mis Tachwedd mae 'na sôn am ryw ?yl benwythnos y mae'r cerddorion yn mynd iddi. Mae'r hadau wedi'u hau - roedd G?yl Corris yn cael ei geni. Penderfynodd Matt ac Andy roi cynnig arni. Go brin bod ganddyn nhw na neb arall fawr o amcan yngl?n â beth oedd o'u blaenau. Galwyd cyfarfod i bawb a oedd â diddordeb a daeth dros ugain o bobl ynghyd. Hanes yw'r gweddill. Dyma un fersiwn bersonol o'r hanes hwnnw... Ymatebodd Dennis Jones, wrth gwrs, i'r her gan drefnu un o'i gyngherddau nid anenwog. Bu Matt yn cysylltu â rhai o'r bandiau y mae o'n eu nabod ac aeth y gweddill ohonom ati i gynllunio'r hyn a fyddai'n benwythnos bendigedig ar ddiwedd yr haf. Ac roedd angen tipyn o waith cynllunio hefyd - cael yswiriant, archebu pabell fawr, trefnu digwyddiadau i'r Institiwt, y Fraich Goch a'r Ganolfan Grefft, cyfarfod â Phwyllgor Sioe Corris, y Cyngor Cymuned, yr Heddlu, Cyngor Sir Gwynedd, y Gronfa Loteri Fawr a Galluogi Gwynedd i enwi ond ychydig. Cael hyd i leoliad, cael hyd i amser, tawelu pob panig - bu'n rhaid mynd i'r afael â'r cwbl. Ac roedd yna ragor. Croesawyd y cyfle gan Mrs Griffiths i blant y pentref i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i gynllunio logo'r ?yl a chafodd Matt, Kara, Ann, Ian, Andy, Lizzie ac Eden waith anodd IAWN wrth ddewis rhwng cymaint o geisiadau rhagorol. Chwarae teg i Lizzie ac Eden hefyd a gytunodd i wneud yr holl waith dylunio - ar gyfer y crysau-T, y posteri, y rhaglenni, ac yn wir pob dim a oedd ei angen. Nid nhw oedd y rhai cyntaf, ac yn sicr nid nhw fyddai'r rhai olaf, i ddarganfod bod pob tasg a gyflawnwyd yn esgor ar sawl tasg arall yn ei sgil.
Yn y cefndir roedd Ann ac Andy wrthi'n ddyfal yn ceisio rhoi tic yn yr holl flychau (yn llythrennol weithiau ar y gwahanol ffurflenni grant), ac yn sicrhau bod popeth yn rhedeg ar amser (ha! ha!) Roedd y penwythnos yn prysur ddynesu ac roedd rhestr y "jobsys i'w gwneud' yn swyddfa Andy'n tyfu'n gynt nag y gellid ychwanegu at restr y 'jobysys gorffenedig'. Heb y gwirfoddolwyr di-rif a safodd yn y bwlch pan oedd eu gwir angen, fyddai'r ?yl byth wedi digwydd. Daeth nifer rhyfeddol o bobl i Ysgol Bro Ddyfi i gasglu'r seddau a'r llwyfan (a gynigiwyd trwy garedigrwydd Mrs Pugh a Dafydd Jones) a'r bar dros dro o'r Clwb Rygbi (trwy garedigrwydd Don Bennett) - i gyd o dan arweiniad proffesiynol Simon Quincy a Dennis Jones, a'u cynorthwywyr hynod atebol -Gareth, Hannah, Richard, Jude ac Ann. Tra oedd hyn yn digwydd, bu Andy ac Eden ar eu ffordd i Aberystwyth i gasglu'r generaduron ar log.
Nos Wener - yr agoriad. Gyda phump o fandiau lleol yn y Fraich. Patrolau rheoli traffig a diogelwch ar y ffyrdd, yr arwyddion cyfeiriol wedi'u codi, yr arwyddion dim parcio wedi'u codi, yr arwyddion rhybudd wedi'u codi, diolch i Mariska, Tim, Bill, Ollie, Julie, Dan a Nav, Sally, Simon a Jane, Nick, Diane, Tim, Alana a rhai eraill si?r o fod (sori os rydym wedi'ch gadael chi allan). Roedd golwg hyfryd iawn arnoch chi i gyd yn eich topiau rhybudd melyn goleuol - yn enwedig Jan hefo'r plastar lled oleuol am ei harddwn toredig, druan! Y rhain ac eraill a fu'n gyfrifol am wneud y jobsys hynny pe na baent wedi'u cyflawni, na allai'r ?yl fod wedi digwydd. 'Meagan a Melissa' gafodd y fraint o agor y sioe. Roedd y ddwy ferch ifanc hyn, yn eu arddegau, wedi glanio yn ystod un o'r nosweithiau gwerin yn gynt yn y flwyddyn dan droi'n ffefrynnau'n syth gyda chynulleidfa hynod werthfawrogol, gan ganu'u caneuon eu hunain i'w cyfeiliant eu hunain.
Newid bach cyflym a thro Plaform Soul ydi o - yn syfrdanol
fel arfer. Yna, newid go-iawn yn y naws - dyma DetCon 3 yn chwarae set
anhygoel - roc trwm (Yn ôl Dan, fatha Iron Maiden cynnar; yn debycach
i Nivana, medd Ian - y ddau'n cytuno: "byddwn ni'n clywed llawer
iawn rhagor gan yr cogie 'ma) Toriad bach sydyn ac wedyn Retrospects
yn chwarae eu hwythfed gig 'adferol' yn y Fraich , ac unwaith yn rhagor
buont yn gwefreiddio'r pyntars hen a newydd. Restless Leg sydd olaf
ac, yn y pen draw, maen nhw'n cael eu perswadio mai'r Yn dal y cwbl at ei gilydd roedd Rambling Bill Hosier - yn ei holl ogoniant mewn Tux wedi'i logi'n arbennig si?r o fod (neu wedi'i dynnu o'r peli camffor) i'r digwyddiad - amser maith er pan welon ni gymerband, Bill! Diolch i Gareth, Jude, Hannah, Charlene, Phillippa a sawl un arall yn ystod y noson hynod brysur- ond hynod ddifyr DIWRNOD SIOE CORRIS
Ddydd Sadwrn yn gwawrio. Glaw (wel, am anarferol!), ond mae ysbryd pawb heb ei dampio. A dweud y gwir, testun llawenydd mawr yw'r sôn y gallai fod mwy o bobl wedi dod i'r Sioe eleni oherwydd yr ?yl, ac fel arfer roedd golwg ffantastig ar bethau (sut maen nhw'n tyfu blodau a llysiau fel 'na?) Daeth Ann dros y siom o beidio ag ennill y gystadleuaeth ffotograffig (eto - diolch Martin); bu Band y Stryd, Abergynolwyn, yn chwarae ar gyfer y sioe a Rheilffordd Corris. Diolch i Dennis, roedd yr ?yl a Sioe Corris wedi cael tipyn o sylw ar newyddion S4C ac ar Radio Cymru - perfformiwr teledu penigamp, Dennis! Ddydd Sadwrn cafwyd gweithdai wedi'u trefnu gan Lizzie
ac Eden, gyda chymorth atebol iawn gan Taran a Chris, yn y Ganolfan
Grefft - diablo, jyglo a chwythu trwy dalpiau o bren cau - rhyw syniad
o Awstralia - (Didjerid?s, dwi'n meddwl ydi'r enw). Hefyd, bu Parti
Dawns Aberystwyth yn llwyfannu Yn yr Institiwt, daeth Otto Freidenthall â Chôr Powys am berfformiad cyn i'r côr deithio i wledydd Llychlyn. Fe'u rhagflaenwyd gan Barti Dawns a Dawns Twmpath anhygoel Aberystwyth. Nos Sadwrn. Y noson roc fawr ar Gae Cymuned Siôr Vii. Arwyddion traffig a rhybudd yn eu lle unwaith eto. Da iawn i'r tîm. Cafodd pawb noson ddiogel a neb wedi parcio'n beryglus - campus!! Roedd gwirio'r sain wedi digwydd yn ystod y prynhawn gan ddefnyddio'r system PA ardderchog a osodwyd yn gynt yn y dydd gan y band roc Celtaidd uchel eu parch o ogledd Cymru, Nod Corner, at ddefnydd pawb. Bu Estevez a WOB yn rhoi cynnig arni a chawsant eu plesio. Penderfynodd y band lleol, Three Minute Warning (gan roi rhybudd digon tebyg) beidio â chwarae. Taw biau hi am hynny! Unwaith i'r gyngerdd ddechrau, aeth pob atgof am y band coll i ebargofiant. Ar y drws bu Ollie a Jane yn sicrhau mai rheini a oedd â thocynnau'n unig a gâi fynediad. Bu hyd yn oed aelodau'r band yn gorfod dangos prawf adnabod i gael dod i mewn! Gydag un band ar goll, cytunodd y tri band arall i ymestyn eu setiau - wedi'u hatgyfnerthu gan Chilli Con Carne Ian (gyda dewis llysieuol, wrth gwrs) - ac roedd yn amlwg iawn bod noson arbennig iawn ar y gweill i bawb. Roedd yr awyrgylch a'r gerddoriaeth y tu mewn a'r tu allan i'r Babell yn llawen dros ben. Roedd hyd yn oed cadeiriau canfas i'w gweld, mae'n debyg, ar hyd Maes y Llan). |
The Festival Marquee sits quietly down in the valley awaiting the masses who will soon be winding their way, via the ale houses and slippery slopes, with ticket in hand and expectation in heart to become a part of Corris history. Read on.
A meeting was called for anyone interested and over twenty people arrived. The rest is history. This is one (personal) version of that history... Dennis Jones (of course) rose to the challenge of getting
one of his now infamous concerts together.
And what planning it was - getting insurance, booking a marquee, booking events for the Institute, the Braich and the Craft Centre, meeting with the Corris Show Committee, the Community Council, the Police, Gwynedd County Council, The BIG Lottery and Galliogu Gwynedd to name but a few. Finding a venue, finding time, overcoming panic - all had to be tackled. And there was more. Mrs Griffiths welcomed the opportunity to involve the children of the village in a design competition for the 'festival logo' and Matt, Kara, Ann, Ian, Andy, Lizzie and Eden had a VERY difficult job choosing between the excellent entries. Lizzie and Eden came up trumps and agreed to do all the
graphic design work - for the t-shirts, the posters, the programmes,
in fact everything that was needed. They were not the first, and certainly
not the last, to find out that each job done created several more still
to be done.
A surprising number of people arrived at Ysgol Bro Dyfi
to collect the seating and staging (so kindly offered by Mrs Pugh and
Dafydd Jones) and the temporary bar from the Rugby Club (courtesy of
Don Bennett) - all under the 'professional' guidance of Simon Quincy
and Dennis Jones, ably assisted by Gareth, Hannah, Richard, Jude and
Ann. While this was going on Andy and Eden were
Getting all of these things delivered to 'the field' at
the right time, and in the right order, was a job the Royal Logistics
Corp would have been proud of. The Marquee arrived on time (the lorry
bringing it having an 'interesting' time negotiating the slope) the
portable toilets arrived, and the brewery people turned up and fixed
the bar. All was set to go and it hadn't rained yet!! Yet!! 'Meagan and Melissa' had the 'privilege' of being the first act on. These two teenagers had just turned up on one folk evening earlier in the year and became an instant favourite with a highly appreciative crowd signing their own unique songs to their own accompaniment. Quick change and it's the turn of 'Platform Soul' - stunning
as always. Then a real mood change - DefCon 3 played an amazing set
- heavy rock (Dan says like early Iron
Holding the whole thing together was 'Rambling Bill Hosier' - looking resplendent in a Tux no doubt specially hired (or de-mothballed) for the event - long time since we've seen a cummerbund, Bill! Special thanks to Gareth, Jude, Hannah, Charlene, Phillippa and Jane (and many others who collected glasses) for their tireless efforts during that hectic but hugely enjoyable evening.
Saturday dawns. Rain (how unusual) but no damp spirits
in fact we are happy to report that the Festival may have resulted in
more people visiting the show this year - and as ever it looked fantastic
(how do they grow flowers and vegetables like that Roger?). Saturday also saw workshops organised by Lizzie and Eden, well assisted by Taran and Chris, at the Craft Centre - Diablo, juggling and blowing through lumps of hollow wood - some Aussie idea - Didgeridoos I think they are called). Parti Dawns Aberystwyth also provided a stunning display of traditional Welsh dance.
In the Institute Otto Freidenthall brought Cor Powys for a pre-tour performance (off to Scandinavia then), preceded by the amazing Parti Dawns and Aberystwyth Twmpath Dawns.
Saturday evening. The big rock concert in the Marquee on King George Vth Community Field. Traffic control and warning signs again in place - well done team - everyone had a safe evening and no dangerous parking - great job!!
|
||||||||||||||||||||||||
|
Friday night host Ann Bottrill of the Braich Goch Bunkhouse. Little did she know what she was letting herself in for way back in the mists of time.
Llywydd Nos Wener Ann Bottrill o Fyncws y Fraich Goch. Go brin, ymhell bell yn ôl yn niwloedd amser, ei bod yn sylweddoli beth fyddai o'i blaen hi. |
Cloud Cuckoo
|
||||||||||||||||||||||||
Defcon3 |
Llawer Mwy
|
||||||||||||||||||||||||
|
Platform Soul
![]() |
|
||||||||||||||||||||||||
|
Judith keeps the Braich in order
|
Cor Powys with Otto enjoying a warmup for their up coming Swiss tour
Cor Powys gydag Otto yn mwynhau sesiwn gynhesu ar gyfer eu taith arfaethedig yn y Swistir |
||||||||||||||||||||||||
|
Yn gynharach yn ystod y dydd, soniodd peiriannydd sain Nod Corner, wrth basio megis, y byddai pawb yn y cwm 'yn cael sioe am ddim heno.' Yn fuan iawn cawson ni wybod beth oedd ganddo dan sylw - roedd acwstig y cwm yn wych. Bu'r sain yn drifftio'n glir iawn ar ei hyd, i'w glywed yn glir fel crisial yn y Fraich ac yn Aberllefenni. Sut s?n fyddai gan Gôr y Brythoniaid nos Sul, tybed? Am wledd i edrych ymlaen ati.
Roedd y glaw wedi methu glastwreiddio ysbryd yr Gwyl er bod traed amryw wedi'u gwlychu ac roedd ambell i hebryngydd â thortsh ar gael i arwain pobl o gwmpas y pyllau. Mae chwedl newydd ym mro Corris. Chwedl Tylwyth Teg y Ffaglau a oedd a wnelo rhywbeth, meddan nhw, â Nav a Danny. Falla eu bod yn gyfrifol hefyd am dri dirgelwch pwysig arall sy'n parhau heb eu datrys - pwy lanhaodd y toiledau dros nos; i ble aeth Andy i guddio adeg cyflwyno'r tusw a sut yr aeth aelod un o'r bandiau ar goll yn y coed yr ochr draw i'r afon, a hynny am dair awr???
Aeth dydd Sadwrn yn ddydd Sul (a gawson ni unrhyw gwsg o gwbl y penwythnos 'na, tybed?) gan ddatgelu, er mawr syndod, aelodau'r Band a oedd wedi aros dros nos yn y Fraich Goch, gan lanhau'r bar a golchi gwydrau a llestri'r noson gynt. Diolch, bobl. Delwedd wedi'i dinistrio'n gyfan gwbl erbyn hyn. Hefyd doedd 'na fawr o dwtio i'w wneud yn y Babell Fawr, diolch yn gyfan gwbl i ymdrechion clodwiw criw y Babell Fawr - Jude, Gareth (yn ddi-lais a heb jympar drwy'r nos), Charlie a Philippa a fu'n gwarchod y Babell Fawr dros nos. Dywedir wrthym bod y fideo sy'n dangos Gareth yn cysgu ar gael ym mhob siop fideo o werth! Pan gyrhaeddodd Andy roedd y lle'n lân ac roedd yr holl gadeiriau wedi'u gosod yn eu lle ar gyfer diweddglo nos Sul. Yn y cyfamser, i fyny'r allt yn y Ganolfan Grefft, roedd
Tarran, Fe lawiodd. Argol, fe lawiodd. Byddai cymuned nad oedd
mor wydn neu un nad oedd mor gyfarwydd â'r glaw wedi colli'u
pennau'n lân. Mae Dennis a'i gymheiriaid yn wytnach o lawer.
Glawiodd baid drwy'r prynhawn ac i'r gyda'r nos yn ddi-baid nes bod
y gyngerdd bron â bod drosodd. Yng nghlydwch yr Institiwt, dilynwyd
Brass Monkey gan Cowbois Celtaidd - y ddau'n rhoi perfformiadau bendigedig.
Ac roedd hi'n dal i dresian bwrw y tu allan. Yn ffodus ddigon, gallodd Eifion Jones, arweinydd Côr
y Brythoniaid, gymryd lle Aled Wyn Davies a fu'n gorfod tynnu'n ôl
ar y funud olaf oherwydd y ffliw. Er gwaethaf ei phrofiad yn ei sîb?ts,
A'r acwstig? Wel, nefolaidd oedd y sain yn y Fraich Goch. Roedd edrych i lawr y cwm a'i chlywed trwy'r llwydnos yn hollol ryfeddol. Fe wnaeth hi hyd yn oed stopio bwrw am sbel. Cynhaliwyd parti bach sydyn i'r Côr a'r holl gynorthwywyr aneirif a oedd wedi cyfrannu cymaint i'r penwythnos, yn y Fraich Goch wedyn - canmol mawr ar y bara, Chris! Yn anffodus, bu'n rhaid i un digwyddiad, pencampwriaeth pêl droed pum-bob-ochr, gael ei ddiddymu ar fore Sul oherwydd bod y glaw mor drwm yr adeg honno. Ond peidiwch â bod ofn, rydym yn bwriadu ad-drefnu hon cyn bo hir.
|
Sound checks had taken place during the afternoon using the excellent
PA system set up early by highly regarded North Wales Celtic Rock Band
'Nod Corner' for all to use. 'Estevez' and 'WOB' checked it out and
were very happy. Local
Once the concert started all thought of the missing band was dispatched to distant memory. Ollie and Jane, on the door, made sure that only those with tickets were allowed to enter. Even the band members had to show their ID to get in. With one band down the other three bands extended their agreed 'sets' - no doubt fortified by Ian's excellent Chilli Con Carne (with vegetarian option of course) - and it was very clear that everyone was in for a very special evening. The atmosphere (and the music) inside (and outside) the Marquee was a joy (even deck-chairs were to be seen along Maes y Llan we are led to believe). Earlier in the day the sound engineer from Nod Corner had said, in passing, that 'everyone living in the valley 'will have a free show tonight'. We were soon to find out what he meant - the acoustics in the valley were superb. The sound drifted with great clarity along the valley - was crystal clear at the Braich and at Aberllyfenni. Just what would Cor Y Brythoniaid sound like on Sunday? - a treat to look forward to.
The rain had failed to dampen spirits, although it did dampen peoples' shoes, and some emergency torch patrols were needed to guide people round the puddles. A new Legend was born. The Legend of the Torch Fairies which we believe has something to do with Nav and Dan. Perhaps they were also responsible for the three important remaining mysteries - who cleaned the toilets overnight, where did Andy hide at the presentation of the bouquet and how did a band member get lost in the woods, on the other side of the river for three hours???
Saturday became Sunday (did we sleep at all that weekend I wonder?) and with it the surprise of the Band members (who had stayed at the Braich overnight) cleaning the bar and washing up from the 'night before'. Thanks guys. . Image totally destroyed now. Also surprisingly little tidying up to do in the Marquee due entirely to the fantastic efforts of the 'Marquee Crew' - Jude, Gareth (without his voice - and without a jumper all night), Charlene and Philippa who guarded the 'big tent' overnight. We are told that the video of Gareth sleeping is available in all good Video Stores! When Andy arrived the place was clean and all the chairs were set-up ready for the Sunday Night finale! Meanwhile, up the hill at the Craft Centre, Taran, Chris,
Lizzie and Eden were doing their juggling and digeredooing while Tory
Corden and 'Cloud Cuckoo' were doing their 'Latin music' thing.
Hands up here - we did think about cancelling, solely because of the safety aspect of the access road to the field. Mrs Lloyd was a saviour, offering her yard for parking when everyone in the world who had a car turned up to fill the 4 vacant spaces. The weather didn't seem to bother the choir and the audience just shrugged it off. There were more than a few muddy shoes and trouser legs on view however. The sight of the excellent and extremely elegant soloist in her 'white' trouser suit with wellies and her trousers tucked up negotiating the slope was a joy - although high heels might have provided a better 'crampon' effect!! For those less able to manage the slope a 'Landrover' shuttle bus was established and all were safely transported to and from the performance - but as someone very famously once said 'It was a very close run thing'. And aren't we glad we stuck with it - what a performance! Luckily John Eifion Jones, conductor of Cor y Brythoniaid,
was able to stand in for Aled Wyn Davies who had to call off at the
last minute due to flu. Despite her earlier 'Welly' experience Sioned
Wyn Hughes was quite brilliant - as were they all. A brief party for the Choir and those many, many helpers
who had |
||||||||||||||||||||||||
|
Cor y Brythoniaid gyda'r arweinydd ac unawdydd John
Eifion Jones
|
|||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cor y Brythoniaid with conductor and soloist John
Eifion Jones
|
|||||||||||||||||||||||||
|
Fore Llun - yr haul yn dangos ei wep fwy neu lai - diwrnod
yn hwyr! Mae cwmni'r Babell Fawr ar eu ffordd - am 8.30 y bore - roeddem
wedi gobeithio mai canol y prynhawn fyddai hi. Pawb ar ddec! Tynnu'r
llwyfan a'r seddau, datgymalu'r bar a glanhau'r holl ddarnau gosod a
gosodiadau eraill. Y broblem oedd ar ôl cyrraedd gwaelod y cae,
roedd y lorri'n methu dod oddi yno. Erbyn hyn, roedd y llethr yn amhosibl
i ddim
Enillwyd yr Orsedd Bren Adenilledig (a roddwyd trwy haelioni Nick a Diane yn Sylvantytch) gan ddynes o Gorris Uchaf sydd bellach yn byw yn Nhywyn - roedd hi wrth ei bodd. Mae'r crysau-T bron wedi'u gwerthu i gyd, fel y mae telynau pren G?yl Corris gan Chris. Oedd hi'n werth chweil? Dim ond King Arthur's Labyrinth Felly, beth am y dyfodol? Ble bynnag y byddwn yn mynd, pwy bynnag y byddwn ni'n siarad hefo nhw, y cwestiwn ydi 'A fydd 'na un arall?' Ar ôl yr holl nosweithiau digwsg, sawl gwlychfa, methu dal y pwysau (bron), camgymeriadau, ffraeo, ymgreinio, meddwi, baglu dros raffau'r babell, syrthio i'r mwd, gwrando ar gwynion, a allwch chi 'neud hyn, a allwch chi 'neud y llall, lle ma' hyn'na, lle ma' hwn'na mi gei di warantu dy enaid y bydd 'na un arall. Mae cynllunio cynnar yn awgrymu efallai y byddwn yn cychwyn
yr ?yl gyda digwyddiad ar benwythnos G?yl y Banc a ddilynir gan sawl
digwyddiad llai yn ystod yr wythnos gan ddefnyddio'r un canolfannau
ag o'r blaen, gan ddod i ben â chyngherddau ar y penwythnos canlynol.
Diolch i Gareth am roi'r syniad yn ein pennau. Dyfalu ydi hyn i gyd
ar adeg ysgrifennu'r llith hon, ond pwy a ?yr. I hyrwyddo cerddoriaeth yn yr ardal, mae Byncws a Thafarn y Fraich Goch i barhau i ddarparu cyfleusterau i gerddorion, ifanc, a rhai sydd heb fod mor ifanc, befformio neu ddim ond i ymarfer ar eu llwyfan pwrpasol. Mae yna gyflenwad cynyddol o offer ac offerynnau cerddorol, gan gynnwys gitarau, drymiau a system PA werth chweil. Cynhelir nosweithiau cerddorol agored bob nos Fawr ac mae croeso i bawb gymryd rhan neu dim ond gwylio a gwrando. Cysylltwch â'r Fraich Goch am unrhyw wybodaeth bellach. |
Monday morning - the sun more or less comes out - a day late! The Marquee company is on the way - at 8.30am - we were hoping for mid-afternoon. All hands on deck - removing staging and seating, dismantling the bar and clearing all the other fixtures and fittings. Trouble was having got down to the field the lorry couldn't get back up - the slope was now impassable to all but 4x4s and tractors! So it was hitched to Range Rover and towed up until that couldn't cope either - so Simon's tractor was called in as 'emergency rescue' and with the help of additional bodies it got up the hill - and into the swamp left by the temporary toilet lorry as it washed the outside of the loos (who DID clean them? Whoever you are, thanks - great job). The raffle for the wonderful Reclaimed Wooden Throne (so
generously donated by Nick and Diane at Sylvantytch) was won by a woman
from Upper Corris who now lives in Braich Goch Bunkhouse and Inn Was it worth it? Only the people of Corris and the surrounding
area can answer that one. As for us, those who organised and helped,
it was a wonderful (and wonderfully tiring) weekend full of fun, mishaps,
rain, luck and nervous tension, and rain and mud - but it was, for us,
certainly worth it. And all of us, on the dumfounded committee, can
sleep now!
Early planning is suggesting that we may be looking at starting the Festival with an event on the Bank Holiday weekend followed by several smaller weekends during the week using the same venues as before culminating with concerts the following weekend. Thanks to Gretta for putting this idea into our heads. This is all speculation at the time of penning this article but you never know. An Eight day Festival? Well, we are in Corris after all, the home of the Torch Fairies. Anything is possible! To promote Music in the Area the Braich Goch Bunkhouse and Inn are to continue providing facilities for musicians, young and not so young, to perform or simply practice on their purpose built stage. There is a growing stock of musical equipment and instruments
including guitars, drums and a quality PA system. Open music evenings
are held every Tuesday and all are welcome to participate or just watch
and listen. |
||||||||||||||||||||||||
![]() |
![]() |
||||||||||||||||||||||||
| Mi fyswn i'n taeru fod 'ne fand yma gynne. Oes 'ne rywun yn gallu helpu Eden i ddod o hyd i'r band coll? | I'm sure there was a band here earlier. Can anyone help Eden find the missing band? | ||||||||||||||||||||||||
| I hyrwyddo cerddoriaeth yn yr ardal, mae Byncws a Thafarn y Fraich Goch i barhau i ddarparu cyfleusterau i gerddorion, ifanc, a rhai sydd heb fod mor ifanc, befformio neu ddim ond i ymarfer ar eu llwyfan pwrpasol. Mae yna gyflenwad cynyddol o offer ac offerynnau cerddorol, gan gynnwys gitarau, drymiau a system PA werth chweil. Cynhelir nosweithiau cerddorol agored bob nos Fawr ac mae croeso i bawb gymryd rhan neu dim ond gwylio a gwrando. Cysylltwch â'r Fraich Goch am unrhyw wybodaeth bellach. | To promote Music in the Area the Braich Goch
Bunkhouse and Inn are to continue providing facilities for musicians,
young and not so young, to perform or simply practice on their purpose
built stage.
There is a growing stock of musical equipment and instruments including
guitars, drums and a quality PA system. Open music evenings are held
every Tuesday and all are welcome to participate or just watch and listen. |
||||||||||||||||||||||||
|
Designed and Printed at the Braich Goch Bunkhouse
and Inn, Corris, Machynlleth, Powys. SY20 9RD www.braichgoch.co.uk
Phone: 01654 761229 Gwyl Corris Festival Office: Braich Goch Bunkhouse and Inn |
|||||||||||||||||||||||||
| BACK TO FESTIVAL 2009 MAIN INDEX |
Copyright © 2007 - Corris Festival Committee
All Rights Reserved
Hosting provided by corriscomputing.net